Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 20:30-37 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

30. Felly cafodd teyrnas Jehosaffat heddwch, a rhoddodd ei Dduw lonydd iddo oddi wrth bawb o'i amgylch.

31. Teyrnasodd Jehosaffat ar Jwda. Pymtheg ar hugain oedd ei oed pan ddaeth i'r orsedd, a theyrnasodd am bum mlynedd ar hugain yn Jerwsalem. Asuba ferch Silhi oedd enw ei fam.

32. Dilynodd lwybr ei dad Asa yn hollol ddiwyro, a gwneud yr hyn oedd yn uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD.

33. Er hynny, ni symudwyd yr uchelfeydd, ac nid oedd y bobl eto wedi gosod eu bryd ar Dduw eu hynafiaid.

34. Y mae gweddill hanes Jehosaffat, o'r dechrau i'r diwedd, wedi ei ysgrifennu yng nghronicl Jehu fab Hanani, sydd wedi ei gynnwys yn Llyfr Brenhinoedd Israel.

35. Wedi hyn gwnaeth Jehosaffat brenin Jwda gynghrair â'r drwgweithredwr, Ahaseia brenin Israel.

36. Cydweithiodd ag ef i wneud llongau i fynd i Tarsis, a'u hadeiladu yn Esion-geber.

37. Ond proffwydodd Elieser fab Dodafa o Maresa yn erbyn Jehosaffat, a dweud, “Am i ti wneud cynghrair ag Ahaseia, fe ddryllia yr ARGLWYDD dy waith.” Felly dinistriwyd y llongau, ac ni allent hwylio i Tarsis.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 20