Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 20:25-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

25. Daeth Jehosaffat a'i filwyr i'w hysbeilio, a chawsant arnynt lawer o olud a gwisgoedd, ac eiddo gwerthfawr. Yr oedd ganddynt fwy o ysbail nag y gallent ei gario, ac am fod cymaint ohono buont am dridiau yn ei gludo.

26. Ar y pedwerydd dydd daethant ynghyd i ddyffryn Beracha; am iddynt fendithio'r ARGLWYDD yno, gelwir y lle yn ddyffryn Beracha hyd heddiw.

27. Yna dychwelodd holl filwyr Jwda a Jerwsalem dan arweiniad Jehosaffat i Jerwsalem mewn llawenydd, am i'r ARGLWYDD roi buddugoliaeth iddynt dros eu gelynion;

28. daethant i dŷ'r ARGLWYDD yn Jerwsalem gyda nablau, telynau a thrwmpedau.

29. Daeth ofn Duw ar holl deyrnasoedd y gwledydd pan glywsant fod yr ARGLWYDD wedi ymladd yn erbyn gelynion Israel.

30. Felly cafodd teyrnas Jehosaffat heddwch, a rhoddodd ei Dduw lonydd iddo oddi wrth bawb o'i amgylch.

31. Teyrnasodd Jehosaffat ar Jwda. Pymtheg ar hugain oedd ei oed pan ddaeth i'r orsedd, a theyrnasodd am bum mlynedd ar hugain yn Jerwsalem. Asuba ferch Silhi oedd enw ei fam.

32. Dilynodd lwybr ei dad Asa yn hollol ddiwyro, a gwneud yr hyn oedd yn uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD.

33. Er hynny, ni symudwyd yr uchelfeydd, ac nid oedd y bobl eto wedi gosod eu bryd ar Dduw eu hynafiaid.

34. Y mae gweddill hanes Jehosaffat, o'r dechrau i'r diwedd, wedi ei ysgrifennu yng nghronicl Jehu fab Hanani, sydd wedi ei gynnwys yn Llyfr Brenhinoedd Israel.

35. Wedi hyn gwnaeth Jehosaffat brenin Jwda gynghrair â'r drwgweithredwr, Ahaseia brenin Israel.

36. Cydweithiodd ag ef i wneud llongau i fynd i Tarsis, a'u hadeiladu yn Esion-geber.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 20