Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 2:6-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Ond pwy a all adeiladu tŷ iddo pan yw'r nefoedd a nef y nefoedd yn methu ei gynnwys? A phwy wyf fi i godi tŷ iddo, heblaw i arogldarthu o'i flaen?

7. Felly, anfon ataf grefftwr medrus i weithio mewn aur, arian, pres a haearn, ac mewn defnydd porffor ac ysgarlad, a sidan glas, un sydd hefyd yn gerfiwr cywrain, er mwyn iddo ymuno â'r crefftwyr a benododd fy nhad Dafydd, ac sydd gennyf yn Jwda a Jerwsalem.

8. Anfon ataf hefyd gedrwydd, ffynidwydd a choed almug o Lebanon, oherwydd gwn fod dy weision yn gyfarwydd â thorri coed Lebanon. Bydd fy ngweision yn cynorthwyo dy weision di

9. i ddarparu llawer o goed i mi, oherwydd fe fydd y tŷ yr wyf am ei adeiladu yn fawr a rhyfeddol.

10. Fe roddaf i'th weision, sef y coedwigwyr sy'n torri'r coed, ugain mil o corusau o wenith wedi ei falu, ugain mil o corusau o haidd, ugain mil o bathau o win ac ugain mil o bathau o olew.”

11. Anfonodd Hiram brenin Tyrus yr ateb hwn i Solomon mewn llythyr: “Am i'r ARGLWYDD garu ei bobl, fe'th wnaeth di'n frenin arnynt.

12. Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD, Duw Israel, gwneuthurwr nef a daear, am iddo roi i'r Brenin Dafydd fab doeth, wedi ei ddonio â synnwyr a deall, i adeiladu tŷ i'r ARGLWYDD a phalas iddo'i hun.

13. Yr wyf yn anfon iti'n awr grefftwr medrus a fu'n gweithio i Hiram fy nhad;

14. mab ydyw i un o ferched Dan, a'i dad yn hanu o Tyrus. Y mae wedi ei hyfforddi i weithio mewn aur, arian, pres, haearn, cerrig a choed, yn ogystal â defnydd porffor ac ysgarlad, sidan glas, a lliain main; gŵyr hefyd sut i gerfio unrhyw beth, a sut i weithio yn ôl unrhyw batrwm a roddir iddo. Gad iddo ymuno â'th grefftwyr di a chrefftwyr f'arglwydd Dafydd, dy dad.

15. Felly, anfoner y gwenith, yr haidd, yr olew a'r gwin a addawodd fy arglwydd i'w was,

16. ac fe dorrwn ninnau hynny o goed a fynni o Lebanon, a'u gyrru'n rafftiau i ti dros y môr i Jopa; cei dithau eu cario i fyny i Jerwsalem.”

17. Rhifodd Solomon yr holl ddieithriaid oedd yng ngwlad Israel, yn union fel y rhifodd Dafydd ei dad hwy, a'r cyfanswm oedd cant pum deg a thri o filoedd a chwe chant.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 2