1. Penderfynodd Solomon adeiladu tŷ i enw'r ARGLWYDD, a phalas iddo'i hun.
2. Dewisodd ddeng mil a thrigain o ddynion yn gludwyr, a phedwar ugain mil yn chwarelwyr yn y mynydd, a thair mil a chwe chant yn oruchwylwyr drostynt.
3. Yna fe anfonodd y neges hon at Hiram brenin Tyrus, “Gwna i mi yn union fel y gwnaethost i Ddafydd fy nhad pan anfonaist iddo gedrwydd er mwyn iddo adeiladu tŷ i fyw ynddo.
4. Yr wyf fi am adeiladu tŷ i enw'r ARGLWYDD fy Nuw a'i gysegru iddo, er mwyn llosgi arogldarth peraidd a rhoi'r bara gosod o'i flaen yn rheolaidd, a gwneud poethoffrymau fore a hwyr, ar y Sabothau, y newydd-loerau a gwyliau penodedig yr ARGLWYDD ein Duw; oherwydd y mae hon yn ddeddf i'w chadw gan Israel am byth.
5. Bydd y tŷ a adeiladaf fi yn un mawr, am fod ein Duw ni yn fwy na'r holl dduwiau.