Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 19:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Dychwelodd Jehosaffat brenin Jwda yn ddiogel i'w dŷ yn Jerwsalem.

2. A daeth Jehu fab Hanani y gweledydd allan i'w gyfarfod a dweud wrtho, “A wyt ti'n ymhyfrydu mewn cynorthwyo'r annuwiol a'r rhai sy'n casáu'r ARGLWYDD? Daw llid arnat am hyn.

3. Eto, y mae daioni ynot, oherwydd fe dynnaist ymaith ddelwau Asera o'r wlad, a rhoddaist dy fryd ar geisio Duw.”

4. Yr oedd Jehosaffat yn byw yn Jerwsalem, ond yn dal i fynd allan ymysg y bobl o Beerseba hyd fynydd-dir Effraim, a dod â hwy'n ôl at ARGLWYDD Dduw eu tadau.

5. Gosododd farnwyr ar y wlad, un ymhob un o ddinasoedd caerog Jwda,

6. a dweud wrthynt, “Gofalwch sut yr ydych yn ymddwyn, oherwydd nid yn enw neb meidrol ond yn enw'r ARGLWYDD yr ydych yn barnu, a bydd ef gyda chwi pan farnwch.

7. Yn awr, bydded arnoch ofn yr ARGLWYDD, a gweithredwch yn ofalus, oherwydd nid oes anghyfiawnder na ffafriaeth na llwgrwobr yn perthyn i'r ARGLWYDD ein Duw.”

8. Hefyd, fe osododd Jehosaffat yn Jerwsalem rai o'r Lefiaid a'r offeiriaid, a phennau-teuluoedd yr Israeliaid, i weinyddu cyfraith yr ARGLWYDD ac i dorri dadleuon trigolion Jerwsalem.

9. Dyma ei orchymyn iddynt: “Yr ydych i weithredu'n ffyddlon a didwyll yn ofn yr ARGLWYDD.

10. Ym mhob achos a ddaw o'ch blaen oddi wrth eich cymrodyr sy'n byw yn eu dinasoedd, p'run ai achosion o dywallt gwaed neu unrhyw achos arall o gyfraith, gorchymyn, deddfau a barnedigaethau, rhybuddiwch hwy i beidio â throseddu yn erbyn yr ARGLWYDD, neu fe ddaw ei lid arnoch chwi a'ch cymrodyr. Ond ichwi wneud hyn, ni fyddwch yn troseddu.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 19