Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 16:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yn yr unfed flwyddyn ar bymtheg ar hugain o deyrnasiad Asa, daeth Baasa brenin Israel yn erbyn Jwda ac adeiladu Rama, rhag gadael i neb fynd a dod at Asa brenin Jwda.

2. Cymerodd Asa arian ac aur allan o drysorfeydd tŷ'r ARGLWYDD a thŷ'r brenin, a'u hanfon i Ben-hadad brenin Syria, a oedd yn byw yn Namascus; a dywedodd wrtho,

3. “Bydded cyfamod rhyngof fi a thi, fel yr oedd rhwng fy nhad a'th dad. Rwy'n anfon atat arian ac aur; tor dy gyfamod gyda Baasa brenin Israel er mwyn iddo gilio'n ôl oddi wrthyf.”

4. Gwrandawodd Ben-hadad ar y Brenin Asa, ac anfon swyddogion ei gatrodau yn erbyn trefi Israel, i ymosod ar Ijon, Dan ac Abel-maim, ac ar holl ddinasoedd stôr Nafftali.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 16