Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 13:1-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yn y ddeunawfed flwyddyn i'r Brenin Jeroboam, daeth Abeia yn frenin ar Jwda.

2. Teyrnasodd am dair blynedd yn Jerwsalem, a Michaia ferch Uriel o Gibea oedd enw ei fam.

3. Bu rhyfel rhwng Abeia a Jeroboam; aeth Abeia i'r frwydr gyda byddin o filwyr dewr, pedwar can mil o wŷr dethol, a daeth Jeroboam i'w gyfarfod gydag wyth can mil o wroniaid dethol.

4. Safodd Abeia ar Fynydd Semaraim ym mynydd-dir Effraim a dweud, “Gwrandewch arnaf fi, Jeroboam a holl Israel.

5. Oni wyddoch fod ARGLWYDD Dduw Israel wedi rhoi i Ddafydd a'i feibion yr hawl i deyrnasu am byth ar Israel trwy gyfamod halen?

6. Ond gwrthryfelodd Jeroboam fab Nebat, gwas Solomon fab Dafydd, yn erbyn ei arglwydd,

7. a chasglu ato ddihirod ofer, a fu'n herio Rehoboam fab Solomon, pan oedd yn llanc ifanc ofnus a heb fod yn ddigon cryf i'w gwrthsefyll.

8. Yn awr, yr ydych chwi'n bwriadu gwrthsefyll teyrnas yr ARGLWYDD, sydd wedi ei rhoi i feibion Dafydd, am eich bod yn niferus iawn ac yn berchen ar y lloi aur a wnaeth Jeroboam yn dduwiau i chwi.

9. Onid ydych wedi diarddel offeiriaid yr ARGLWYDD, meibion Aaron, a'r Lefiaid, ac ethol eich offeiriaid eich hunain, fel y gwna pobl gwledydd eraill? Y mae pwy bynnag sy'n dod i'w gysegru ei hun â bustach ifanc a saith o hyrddod yn mynd yn offeiriad i'r un nad yw'n dduw.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 13