Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 12:8-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Er hynny, fe fyddant yn weision iddo, er mwyn iddynt wybod y gwahaniaeth rhwng fy ngwasanaethu i a gwasanaethu teyrnasoedd y byd.”

9. Yna daeth Sisac brenin yr Aifft i fyny yn erbyn Jerwsalem a dwyn holl drysorau tŷ'r ARGLWYDD a thrysorau tŷ'r brenin, a dwyn hefyd y tarianau aur a wnaeth Solomon.

10. Yn eu lle gwnaeth y Brenin Rehoboam darianau pres, a'u rhoi yng ngofal swyddogion y gwarchodlu oedd yn gwylio porth tŷ'r brenin.

11. Bob tro yr âi'r brenin i dŷ'r ARGLWYDD, fe ddôi'r gwarchodlu a'u cyrchu, ac yna eu dychwelyd i'r wardws.

12. A phan ymostyngodd, fe drodd yr ARGLWYDD ei lid oddi wrtho, a pheidio â'i lwyr ddinistrio. Yna daeth ffyniant i Jwda.

13. Sicrhaodd y Brenin Rehoboam ei afael ar Jerwsalem a theyrnasu yno. Yr oedd yn un a deugain oed pan ddechreuodd deyrnasu, a bu'n frenin am ddwy flynedd ar bymtheg yn Jerwsalem, y ddinas a ddewisodd yr ARGLWYDD allan o holl lwythau Israel i osod ei enw yno. Naama yr Ammones oedd enw mam Rehoboam.

14. Ond fe wnaeth y brenin ddrwg trwy beidio â rhoi ei fryd ar geisio'r ARGLWYDD.

15. Ac onid yw hanes Rehoboam, o'r dechrau i'r diwedd, yn ysgrifenedig yng nghroniclau ac achau Semaia y proffwyd ac Ido y gweledydd? Bu rhyfeloedd rhwng Rehoboam a Jeroboam trwy gydol yr amser.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 12