Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 12:3-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. gyda mil a dau gant o gerbydau a thrigain mil o farchogion; daeth hefyd lu aneirif o Libyaid, Suciaid ac Ethiopiaid gydag ef o'r Aifft.

4. Cymerodd ddinasoedd caerog Jwda a chyrhaeddodd Jerwsalem.

5. Yna daeth y proffwyd Semaia at Rehoboam a thywysogion Jwda, a oedd wedi ymgasglu yn Jerwsalem o achos Sisac, a dywedodd wrthynt, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Yr ydych chwi wedi cefnu arnaf fi; felly yr wyf finnau wedi cefnu arnoch chwi a'ch rhoi yn llaw Sisac.’ ”

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 12