Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 11:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Pan ddychwelodd Rehoboam i Jerwsalem, galwodd ynghyd dylwythau Jwda a Benjamin, cant a phedwar ugain o filoedd o ryfelwyr dethol, i ryfela yn erbyn Israel i adennill y frenhiniaeth i Rehoboam.

2. Ond daeth gair yr ARGLWYDD at Semeia, gŵr Duw:

3. “Dywed wrth Rehoboam fab Solomon, brenin Jwda, ac wrth holl Israel yn Jwda a Benjamin,

4. ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Peidiwch â mynd i ryfela yn erbyn eich perthnasau; ewch yn ôl adref bob un, gan mai oddi wrthyf fi y daw hyn.’ ” A gwrandawsant ar eiriau'r ARGLWYDD, a pheidio â mynd yn erbyn Jeroboam.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 11