2 Brenhinoedd 9:22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)
Pan welodd Joram Jehu gofynnodd, “A yw popeth yn iawn, Jehu?” Atebodd yntau, “Sut y gall fod yn iawn tra bo cymaint o buteindra a hudoliaeth dy fam Jesebel yn aros?”