Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 8:5-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Ac fel yr oedd Gehasi'n adrodd wrth y brenin amdano'n adfywio un oedd wedi marw, dyna'r wraig yr adfywiodd ei mab yn dod i erfyn ar y brenin am ei thŷ a'i thir. Ac meddai Gehasi, “F'arglwydd frenin, hon yw'r wraig, a dyma'r mab a adfywiodd Eliseus.”

6. Holodd y brenin hi, ac adroddodd hithau'r hanes wrtho. Yna penododd y brenin swyddog i ofalu amdani, a dweud wrtho, “Rho'n ôl iddi ei heiddo i gyd, a chynnyrch y tir hefyd o'r diwrnod y gadawodd y wlad hyd heddiw.”

7. Daeth Eliseus i Ddamascus. Yr oedd Ben-hadad brenin Syria yn glaf, a dywedwyd wrtho fod gŵr Duw wedi cyrraedd.

8. Yna dywedodd y brenin wrth Hasael, “Cymer rodd gyda thi, a dos at ŵr Duw i ymofyn â'r ARGLWYDD, a fyddaf yn gwella o'r clefyd hwn.”

9. Aeth Hasael ato gyda deugain llwyth camel o holl nwyddau gorau Damascus yn rhodd. Ar ôl cyrraedd, safodd o'i flaen a dweud, “Y mae dy fab, Ben-hadad brenin Syria, wedi f'anfon atat i ofyn, ‘A fyddaf yn gwella o'r clefyd hwn?’ ”

10. Atebodd Eliseus, “Dos a dweud wrtho, ‘Rwyt yn sicr o wella.’ Ond y mae'r ARGLWYDD wedi dangos i mi y bydd yn sicr o farw.”

11. A syllodd yn graff ar Hasael nes iddo gywilyddio, ac wylodd gŵr Duw.

12. Gofynnodd Hasael, “Pam y mae f'arglwydd yn wylo?” Atebodd, “Am fy mod yn gwybod maint y niwed a wnei i'r Israeliaid: bwrw tân i'w caerau a lladd eu hieuenctid â'r cleddyf, mathru'r plant bach a rhwygo'r beichiog.”

13. Dywedodd Hasael, “Sut y gall dy was, nad yw ond ci, wneud peth mor fawr â hyn?” Atebodd Eliseus, “Y mae'r ARGLWYDD wedi dy ddangos imi yn frenin ar Syria.”

14. Ymadawodd ag Eliseus, a phan ddaeth at ei feistr, gofynnodd hwnnw iddo, “Beth a ddywedodd Eliseus wrthyt?” Atebodd yntau, “Dweud wrthyf y byddi'n sicr o wella.”

15. Ond trannoeth cymerodd Hasael wrthban a'i drochi mewn dŵr a'i daenu dros wyneb y brenin. Bu farw, a daeth Hasael yn frenin yn ei le.

16. Yn y bumed flwyddyn i Joram fab Ahab, brenin Israel, tra oedd Jehosaffat yn frenin ar Jwda, dechreuodd Jehoram fab Jehosaffat, brenin Jwda, deyrnasu.

17. Deuddeg ar hugain oedd ei oed pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd yn Jerwsalem am wyth mlynedd.

18. Dilynodd lwybr brenhinoedd Israel, fel y gwnâi tŷ Ahab, gan mai merch Ahab oedd ei wraig, a gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD.

19. Eto ni fynnai'r ARGLWYDD, er mwyn ei was Dafydd, ddifetha Jwda, am iddo addo rhoi lamp iddo ac i'w blant am byth.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 8