Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 8:26-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

26. Dwy ar hugain oed oedd Ahaseia pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd yn Jerwsalem am flwyddyn. Athaleia oedd enw ei fam, wyres i Omri brenin Israel.

27. Dilynodd yr un llwybr â thŷ Ahab, a gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, fel tŷ Ahab, am ei fod yn perthyn trwy briodas i dŷ Ahab.

28. Aeth gyda Joram fab Ahab i ryfel yn erbyn Hasael brenin Syria i Ramoth-gilead, ac anafodd y Syriaid Joram.

29. Ciliodd y Brenin Joram i Jesreel i geisio gwellhad o'r clwyfau a gafodd gan y Syriaid yn Rama yn y frwydr yn erbyn Hasael brenin Syria. A daeth Ahaseia fab Jehoram, brenin Jwda, i edrych am Joram fab Ahab yn Jesreel am ei fod yn glaf.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 8