20. Yn ei gyfnod ef gwrthryfelodd Edom yn erbyn Jwda a gosod brenin arnynt eu hunain.
21. Croesodd Jehoram i Sair a'i holl gerbydau gydag ef; cododd liw nos ac ymosododd ef a'i gerbydwyr ar yr Edomiaid oedd yn ei amgylchu, ond ffodd y fyddin adref.
22. Ac y mae Edom mewn gwrthryfel yn erbyn Jwda hyd y dydd hwn. Gwrthryfelodd Libna hefyd yr un pryd.
23. Am weddill yr holl bethau a wnaeth Jehoram, onid ydynt wedi eu hysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Jwda?
24. Bu farw Jehoram, a chladdwyd ef gyda'i ragflaenwyr yn Ninas Dafydd; a daeth ei fab Ahaseia yn frenin yn ei le.
25. Yn y ddeuddegfed flwyddyn i Joram fab Ahab, brenin Israel, daeth Ahaseia fab Jehoram, brenin Jwda, yn frenin.
26. Dwy ar hugain oed oedd Ahaseia pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd yn Jerwsalem am flwyddyn. Athaleia oedd enw ei fam, wyres i Omri brenin Israel.
27. Dilynodd yr un llwybr â thŷ Ahab, a gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, fel tŷ Ahab, am ei fod yn perthyn trwy briodas i dŷ Ahab.
28. Aeth gyda Joram fab Ahab i ryfel yn erbyn Hasael brenin Syria i Ramoth-gilead, ac anafodd y Syriaid Joram.