Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 8:11-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. A syllodd yn graff ar Hasael nes iddo gywilyddio, ac wylodd gŵr Duw.

12. Gofynnodd Hasael, “Pam y mae f'arglwydd yn wylo?” Atebodd, “Am fy mod yn gwybod maint y niwed a wnei i'r Israeliaid: bwrw tân i'w caerau a lladd eu hieuenctid â'r cleddyf, mathru'r plant bach a rhwygo'r beichiog.”

13. Dywedodd Hasael, “Sut y gall dy was, nad yw ond ci, wneud peth mor fawr â hyn?” Atebodd Eliseus, “Y mae'r ARGLWYDD wedi dy ddangos imi yn frenin ar Syria.”

14. Ymadawodd ag Eliseus, a phan ddaeth at ei feistr, gofynnodd hwnnw iddo, “Beth a ddywedodd Eliseus wrthyt?” Atebodd yntau, “Dweud wrthyf y byddi'n sicr o wella.”

15. Ond trannoeth cymerodd Hasael wrthban a'i drochi mewn dŵr a'i daenu dros wyneb y brenin. Bu farw, a daeth Hasael yn frenin yn ei le.

16. Yn y bumed flwyddyn i Joram fab Ahab, brenin Israel, tra oedd Jehosaffat yn frenin ar Jwda, dechreuodd Jehoram fab Jehosaffat, brenin Jwda, deyrnasu.

17. Deuddeg ar hugain oedd ei oed pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd yn Jerwsalem am wyth mlynedd.

18. Dilynodd lwybr brenhinoedd Israel, fel y gwnâi tŷ Ahab, gan mai merch Ahab oedd ei wraig, a gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD.

19. Eto ni fynnai'r ARGLWYDD, er mwyn ei was Dafydd, ddifetha Jwda, am iddo addo rhoi lamp iddo ac i'w blant am byth.

20. Yn ei gyfnod ef gwrthryfelodd Edom yn erbyn Jwda a gosod brenin arnynt eu hunain.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 8