Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 8:1-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yr oedd Eliseus wedi dweud wrth y wraig yr adfywiodd ei mab, “Muda oddi yma, ti a'th deulu, a dos i fyw lle medri, oherwydd y mae'r ARGLWYDD wedi cyhoeddi newyn, a bydd yn y wlad am saith mlynedd.”

2. Cychwynnodd y wraig yn ôl gair gŵr Duw, ac aeth hi a'i theulu, a byw am saith mlynedd yn Philistia.

3. Ymhen y saith mlynedd, dychwelodd y wraig o Philistia a mynd at y brenin i erfyn am ei thŷ a'i thir.

4. Yr oedd y brenin ar y pryd yn ymddiddan â Gehasi, gwas gŵr Duw, ac yn dweud, “Dywed wrthyf hanes yr holl wrhydri a wnaeth Eliseus.”

5. Ac fel yr oedd Gehasi'n adrodd wrth y brenin amdano'n adfywio un oedd wedi marw, dyna'r wraig yr adfywiodd ei mab yn dod i erfyn ar y brenin am ei thŷ a'i thir. Ac meddai Gehasi, “F'arglwydd frenin, hon yw'r wraig, a dyma'r mab a adfywiodd Eliseus.”

6. Holodd y brenin hi, ac adroddodd hithau'r hanes wrtho. Yna penododd y brenin swyddog i ofalu amdani, a dweud wrtho, “Rho'n ôl iddi ei heiddo i gyd, a chynnyrch y tir hefyd o'r diwrnod y gadawodd y wlad hyd heddiw.”

7. Daeth Eliseus i Ddamascus. Yr oedd Ben-hadad brenin Syria yn glaf, a dywedwyd wrtho fod gŵr Duw wedi cyrraedd.

8. Yna dywedodd y brenin wrth Hasael, “Cymer rodd gyda thi, a dos at ŵr Duw i ymofyn â'r ARGLWYDD, a fyddaf yn gwella o'r clefyd hwn.”

9. Aeth Hasael ato gyda deugain llwyth camel o holl nwyddau gorau Damascus yn rhodd. Ar ôl cyrraedd, safodd o'i flaen a dweud, “Y mae dy fab, Ben-hadad brenin Syria, wedi f'anfon atat i ofyn, ‘A fyddaf yn gwella o'r clefyd hwn?’ ”

10. Atebodd Eliseus, “Dos a dweud wrtho, ‘Rwyt yn sicr o wella.’ Ond y mae'r ARGLWYDD wedi dangos i mi y bydd yn sicr o farw.”

11. A syllodd yn graff ar Hasael nes iddo gywilyddio, ac wylodd gŵr Duw.

12. Gofynnodd Hasael, “Pam y mae f'arglwydd yn wylo?” Atebodd, “Am fy mod yn gwybod maint y niwed a wnei i'r Israeliaid: bwrw tân i'w caerau a lladd eu hieuenctid â'r cleddyf, mathru'r plant bach a rhwygo'r beichiog.”

13. Dywedodd Hasael, “Sut y gall dy was, nad yw ond ci, wneud peth mor fawr â hyn?” Atebodd Eliseus, “Y mae'r ARGLWYDD wedi dy ddangos imi yn frenin ar Syria.”

14. Ymadawodd ag Eliseus, a phan ddaeth at ei feistr, gofynnodd hwnnw iddo, “Beth a ddywedodd Eliseus wrthyt?” Atebodd yntau, “Dweud wrthyf y byddi'n sicr o wella.”

15. Ond trannoeth cymerodd Hasael wrthban a'i drochi mewn dŵr a'i daenu dros wyneb y brenin. Bu farw, a daeth Hasael yn frenin yn ei le.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 8