Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 5:4-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Aeth Naaman a dweud wrth ei feistr, “Y mae'r eneth o wlad Israel yn dweud fel a'r fel.”

5. Ac meddai brenin Syria, “Dos di, ac anfonaf finnau lythyr at frenin Israel.” Yna aeth, a chymryd deg talent o arian, chwe mil o siclau aur a deg pâr o ddillad.

6. Dygodd hefyd at frenin Israel lythyr yn dweud, “Dyma fi'n anfon atat fy ngwas Naaman; cyn gynted ag y derbynni'r llythyr hwn, rwyt i'w wella o'i wahanglwyf.”

7. Pan ddarllenodd brenin Israel y llythyr, rhwygodd ei ddillad a dweud, “Ai Duw wyf fi i beri marw neu fyw, bod hwn yn anfon ataf i wella dyn o'i wahanglwyf? Sylwch ar hyn, yn awr, a gwelwch mai chwilio am achos yn f'erbyn y mae.”

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 5