20. meddyliodd Gehasi, gwas Eliseus gŵr Duw, “Y mae fy meistr wedi arbed y Syriad hwn, Naaman, drwy wrthod derbyn yr hyn a ddygodd; cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, mi redaf ar ei ôl i gael rhywbeth ganddo.”
21. Rhedodd ar ôl Naaman, a phan welodd Naaman ef yn rhedeg, disgynnodd o'i gerbyd i'w gyfarfod, a gofyn, “A yw popeth yn iawn?”
22. “Ydyw, yn iawn,” meddai yntau, “fy meistr sydd wedi f'anfon i ddweud fod dau broffwyd ifanc newydd gyrraedd o ucheldir Effraim; bydd cystal â rhoi iddynt dalent o arian a dau bâr o ddillad.”
23. Atebodd Naaman, “Ar bob cyfrif; cymer ddwy dalent.” Bu'n daer arno; clymodd ddwy dalent mewn dwy god, a'u rhoi gyda dau bâr o ddillad i ddau o'i weision i'w cario o'i flaen.
24. Pan ddaethant at y bonc, cymerodd Gehasi hwy o'u llaw a'u rhoi i gadw, ac yna anfonodd y gweision yn ôl.
25. Wedi iddynt fynd, aeth yntau i mewn i weini ar ei feistr, a dywedodd Eliseus wrtho, “Ple buost ti, Gehasi?” Atebodd, “Ni fu dy was yn unman.”
26. Ond dywedodd Eliseus, “Onid oedd fy nghalon gyda thi pan ddisgynnodd y gŵr o'i gerbyd i'th gyfarfod, a phan dderbyniaist yr arian? Pryn ddillad a gerddi olewydd a gwinllannoedd a defaid a gwartheg a gweision a morynion;
27. ond bydd gwahanglwyf Naaman yn glynu wrthyt ti a'th deulu am byth.” Aeth Gehasi allan o'i ŵydd yn wahanglwyfus, cyn wynned â'r eira.