Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 4:1-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Apeliodd gwraig un o'r proffwydi at Eliseus a dweud, “Bu farw dy was, fy ngŵr, ac yr oedd yn ddyn duwiol, fel y gwyddost; ac y mae'r echwynnwr wedi dod i gymryd fy nau blentyn yn gaethion iddo.”

2. Dywedodd Eliseus wrthi, “Beth a gaf ei wneud i ti? Dywed wrthyf beth sydd gennyt yn dy dŷ.” Atebodd hithau, “Nid oes gan dy lawforwyn ddim yn y tŷ ond ystenaid o olew.”

3. Dywedodd Eliseus, “Dos a benthyg llestri gan dy holl gymdogion yn y stryd; paid â bod yn brin o lestri gweigion.

4. Yna dos i mewn a chau'r drws arnat ti a'th feibion, a thywallt yr olew i'r holl lestri hynny, a gosod pob un llawn o'r neilltu.”

5. Aeth oddi wrtho a chau'r drws arni hi a'i dau fab; ac fel yr oedd hi'n tywallt, yr oeddent hwythau'n dod â'r llestri ati.

6. Pan oedd wedi llenwi'r llestri, meddai hi wrth ei mab, “Tyrd â llestr arall imi,” a dywedodd yntau, “Nid oes yr un llestr arall.” Yna peidiodd yr olew.

7. Pan ddaeth a dweud yr hanes wrth ŵr Duw, dywedodd ef, “Dos, gwerth yr olew a thâl dy ddyled, a chei di a'th feibion fyw ar y gweddill.”

8. Rhyw ddiwrnod aeth Eliseus heibio i Sunem, lle'r oedd gwraig fonheddig; a bu hi'n daer arno i gymryd bwyd yno. Felly bob tro y byddai'n dod heibio, byddai'n troi i mewn yno i fwyta.

9. Dywedodd y wraig wrth ei gŵr, “Rwy'n gwybod mai gŵr sanctaidd Duw yw hwn sy'n dod heibio i ni o hyd.

10. Rwyf am inni wneud llofft fechan ar y mur, a gosod yno wely a bwrdd a chadair a chanhwyllbren, iddo gael troi i mewn yno pan ddaw atom.”

11. Un diwrnod pan ddaeth yno a mynd i mewn i'r llofft i orwedd,

12. dywedodd wrth ei was Gehasi, “Galw'r Sunamees.” Wedi iddo'i galw ac iddi hithau ddod ato,

13. dywedodd Eliseus wrtho, “Dywed wrthi, ‘Dyma ti wedi mynd i'r holl drafferth yma er ein mwyn; beth sydd i'w wneud drosot ti? A oes eisiau dweud gair drosot wrth y brenin neu wrth bennaeth y fyddin?’ ” Ond dywedodd hi: “Ymysg fy nhylwyth yr wyf fi'n byw.”

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 4