Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 25:11-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Caethgludodd Nebusaradan, capten y gwarchodlu, y gweddill o'r bobl a adawyd yn y ddinas, a'r rhai oedd wedi gwrthgilio at frenin Babilon, a gweddill y crefftwyr.

12. Gadawodd capten y gwarchodlu rai o dlodion y wlad i fod yn winllanwyr ac yn arddwyr.

13. Drylliodd y Caldeaid y colofnau pres oedd yn y deml, a'r trolïau a'r môr pres oedd yn y deml, a mynd â'r pres i Fabilon,

14. a chymryd y crochanau a'r rhawiau a'r saltringau a'r llwyau a'r offer pres i gyd a ddefnyddid yn y gwasanaethau.

15. Ond cymerodd capten y gwarchodlu feddiant o'r padellau tân a'r cawgiau oedd o aur ac arian pur.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 25