Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 21:22-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

22. Gwrthododd yr ARGLWYDD, Duw ei hynafiaid, ac ni rodiodd yn ffordd yr ARGLWYDD.

23. Cynllwynodd gweision Amon yn ei erbyn, a lladd y brenin yn ei dŷ;

24. ond lladdwyd yr holl rai a fu'n cynllwyn yn erbyn y Brenin Amon gan bobl y wlad, a gwnaethant ei fab Joseia yn frenin yn ei le.

25. Am weddill hanes Amon, a'r hyn a wnaeth, onid yw wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Jwda?

26. Claddwyd ef yn ei feddrod yng ngardd Ussa, a daeth ei fab Joseia yn frenin yn ei le.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 21