Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 20:16-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Yna dywedodd Eseia wrth Heseceia, “Gwrando air yr ARGLWYDD:

17. ‘Wele'r dyddiau yn dod pan ddygir popeth sydd yn dy balas, a phopeth a grynhodd dy ragflaenwyr hyd y dydd hwn, i Fabilon, ac ni adewir dim,’ medd yr ARGLWYDD.

18. Dygir oddi arnat rai o'r meibion a genhedli, had dy gorff, a byddant yn ystafellyddion yn llys brenin Babilon.”

19. Atebodd Heseceia, “o'r gorau; gair yr ARGLWYDD yr wyt yn ei lefaru.” Meddyliai, “Oni fydd heddwch a sicrwydd dros fy nghyfnod i?”

20. Am weddill hanes Heseceia, a'i holl wrhydri, ac fel y gwnaeth gronfa ddŵr a'r ffos a ddôi â dŵr i'r ddinas, onid yw wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Jwda?

21. Bu farw Heseceia, a daeth Manasse yn frenin yn ei le.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 20