Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 2:8-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Cymerodd Elias ei fantell a'i rholio a tharo'r dŵr. Ymrannodd y dŵr i'r ddeutu, a chroesodd y ddau ar dir sych.

9. Wedi iddynt groesi, dywedodd Elias wrth Eliseus, “Gofyn! Beth a wnaf iti cyn fy nghymryd oddi wrthyt?” Atebodd Eliseus, “Rhodder imi gyfran ddwbl o'th ysbryd.”

10. Dywedodd Elias, “Gwnaethost gais anodd. Os gweli fi yn cael fy nghymryd oddi wrthyt, fe gei hyn; ond os na weli, ni chei.”

11. Ac fel yr oeddent yn mynd, dan siarad, dyma gerbyd tanllyd a meirch tanllyd yn eu gwahanu ill dau, ac Elias yn esgyn mewn corwynt i'r nef.

12. Ac yr oedd Eliseus yn syllu ac yn gweiddi, “Fy nhad, fy nhad; cerbyd a marchogion Israel!” Ni welodd ef wedyn, a chydiodd yn ei wisg a'i rhwygo'n ddau.

13. Yna cododd fantell Elias a oedd wedi syrthio oddi arno, a dychwelodd a sefyll ar lan yr Iorddonen.

14. Cymerodd y fantell a syrthiodd oddi ar Elias, a tharo'r dŵr a dweud, “Ple y mae'r ARGLWYDD, Duw Elias?” Trawodd yntau'r dŵr, ac fe ymrannodd i'r ddeutu, a chroesodd Eliseus.

15. Pan welodd y proffwydi oedd yr ochr draw, yn Jericho, dywedasant, “Disgynnodd ysbryd Elias ar Eliseus.”

16. Ac aethant i'w gyfarfod ac ymgrymu hyd lawr iddo, a dweud, “Y mae gan dy weision hanner cant o ddynion cryfion; gad iddynt fynd i chwilio am dy feistr rhag ofn bod ysbryd yr ARGLWYDD, ar ôl ei gipio i fyny, wedi ei fwrw ar un o'r mynyddoedd, neu i ryw gwm.” Dywedodd, “Peidiwch ag anfon.”

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 2