Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 2:3-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Daeth y proffwydi oedd ym Methel at Eliseus a dweud wrtho, “A wyddost ti fod yr ARGLWYDD am gymryd dy feistr oddi arnat heddiw?” “Gwn yn iawn,” meddai yntau, “peidiwch â dweud.”

4. Dywedodd Elias wrtho, “Eliseus, aros di yma, oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn f'anfon i Jericho.” Dywedodd yntau, “Cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, a thithau, ni'th adawaf.” Felly aethant i Jericho.

5. Daeth y proffwydi oedd yn Jericho at Eliseus a dweud wrtho, “A wyddost ti fod yr ARGLWYDD am gymryd dy feistr oddi arnat heddiw?” “Gwn yn iawn,” meddai yntau, “peidiwch â dweud.”

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 2