Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25

Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Y Brenin yn Ceisio Cyngor Eseia

1. Pan glywodd y Brenin Heseceia yr hanes, rhwygodd ei ddillad a rhoi sachliain amdano, a mynd i dŷ'r ARGLWYDD.

2. Yna anfonodd Eliacim, arolygwr y palas, a Sebna'r ysgrifennydd a'r rhai hynaf o'r offeiriaid, i gyd mewn sachliain, at y proffwyd Eseia fab Amos, i ddweud wrtho,

3. “Fel hyn y dywed Heseceia: ‘Y mae heddiw'n ddydd o gyfyngder a cherydd a gwarth; y mae fel pe bai plant ar fin cael eu geni, a'r fam heb nerth i esgor.

4. O na fyddai'r ARGLWYDD dy Dduw yn gwrando ar eiriau'r prif swyddog a anfonwyd gan ei feistr, brenin Asyria, i gablu'r Duw byw, ac y byddai yn ei geryddu am y geiriau a glywodd yr ARGLWYDD dy Dduw! Felly dos i weddi dros y gweddill sydd ar ôl.’ ”

5. Pan ddaeth gweision y Brenin Heseceia at Eseia,

6. dywedodd Eseia wrthynt, “Dywedwch wrth eich meistr, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Paid ag ofni'r pethau a glywaist, pan oedd llanciau brenin Asyria yn fy nghablu.

7. Edrych, rwy'n rhoi ysbryd ynddo, ac fe glyw si fydd yn peri iddo ddychwelyd i'w wlad; hefyd gwnaf iddo syrthio gan y cleddyf yn y wlad honno.’ ”

Yr Asyriaid yn Bygwth Eto

8. Pan ddychwelodd y prif swyddog, cafodd ar ddeall fod brenin Asyria wedi gadael Lachis, a'i fod yn rhyfela yn erbyn Libna.

9. Ond pan ddeallodd fod Tirhaca brenin Ethiopia ar ei ffordd i ryfela yn ei erbyn, fe anfonodd genhadau eilwaith at Heseceia, a dweud,

10. “Dywedwch wrth Heseceia brenin Jwda, ‘Paid â chymryd dy dwyllo gan dy Dduw yr wyt yn ymddiried ynddo, ac sy'n dweud na roddir Jerwsalem i afael brenin Asyria.

11. Yn sicr, fe glywaist am yr hyn a wnaeth brenhinoedd Asyria i'r holl wledydd, sef eu difrodi. A gei di dy arbed?

12. A waredodd duwiau'r cenhedloedd hwy—y cenhedloedd a ddinistriodd fy rhagflaenwyr, fel Gosan a Haran a Reseff, a phobl Eden oedd yn trigo yn Telassar?

13. Ple mae brenhinoedd Hamath, Arpad, Lair, Seffarfaim, Hena ac Ifa?’ ”

14. Cymerodd Heseceia y neges gan y cenhadau a'i darllen. Yna aeth i fyny i'r deml, a'i hagor yng ngŵydd yr ARGLWYDD, a gweddïo fel hyn o flaen yr ARGLWYDD:

15. “O ARGLWYDD Dduw Israel, sydd wedi ei orseddu ar y cerwbiaid, ti yn unig sydd Dduw dros holl deyrnasoedd y byd; ti a wnaeth y nefoedd a'r ddaear.

16. O ARGLWYDD, gogwydda dy glust a chlyw. O ARGLWYDD, agor dy lygaid a gwêl. Gwrando'r neges a anfonodd Senacherib i watwar y Duw byw.

17. Y mae'n wir, O ARGLWYDD, fod brenhinoedd Asyria wedi difa'r cenhedloedd a'u gwledydd,

18. a thaflu eu duwiau i'r tân; cawsant eu dinistrio am nad duwiau mohonynt, ond gwaith dwylo dynol, o goed a charreg.

19. Yn awr, O ARGLWYDD ein Duw, gwared ni o'i afael, ac yna caiff holl deyrnasoedd y ddaear wybod mai ti yn unig, O ARGLWYDD, sydd Dduw.”

Neges Eseia i'r Brenin

20. Anfonodd Eseia fab Amos at Heseceia, a dweud, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel;

21. ‘Clywais yr hyn a weddïaist ynglŷn â Senacherib brenin Asyria, a dyma'r gair a lefarodd yr ARGLWYDD yn ei erbyn:“ ‘Y mae'r forwyn, merch Seion, yn dy ddirmygu,yn chwerthin am dy ben;y mae merch Jerwsalem yn ysgwyd ei phen ar dy ôl.

22. Pwy wyt ti yn ei ddifenwi ac yn ei gablu?Yn erbyn pwy y codi dy lais?Yr wyt yn gwneud ystum dirmygusyn erbyn Sanct Israel.

23. Trwy dy weision fe geblaist yr Arglwydd, a dweud,“Gyda lliaws fy ngherbydaudringais yn uchel i gopa'r mynyddoedd,i bellterau Lebanon;torrais y praffaf o'i gedrwydd, a'r dewisaf o'i ffynidwydd;euthum i'w gwr uchaf, ei lechweddau coediog.

24. Cloddiais bydewau ac yfed dyfroedd estron;â gwadn fy nhroed sychais holl ffrydiau'r Neil.

25. Oni chlywaist erstalwm mai myfi a'i gwnaeth,ac imi lunio hyn yn y dyddiau gynt?Bellach rwy'n ei ddwyn i ben;bydd dinasoedd caerog yn syrthioyn garneddau wedi eu dinistrio;

26. bydd y trigolion a'u nerth yn pallu,yn ddigalon ac mewn gwarth,fel gwellt y maes, llysiau gwyrdda glaswellt pen towedi eu deifio cyn llawn dyfu.

27. Rwy'n gwybod pryd yr wyt yn eistedd,yn mynd allan ac yn dod i mewn,a'r modd yr wyt yn cynddeiriogi yn f'erbyn.

28. Am dy fod yn gynddeiriog yn f'erbyn,a bod sen dy draha yn fy nghlustiau,fe osodaf fy mach yn dy ffroena'm ffrwyn yn dy weflau,a'th yrru'n ôl ar hyd y ffordd y daethost.” ’

29. “ ‘Hyn fydd yr arwydd i ti: eleni, bwyteir yr ŷd sy'n tyfu ohono'i hun, a'r flwyddyn nesaf, yr hyn sydd wedi ei hau ohono'i hun; ond yn y drydedd flwyddyn cewch hau a medi, a phlannu gwinllannoedd a bwyta eu ffrwyth.

30. Bydd y dihangol a adewir yn nhŷ Jwda yn gwreiddio i lawr ac yn ffrwytho i fyny;

31. oherwydd fe ddaw gweddill allan o Jerwsalem, a rhai dihangol allan o Fynydd Seion. Sêl ARGLWYDD y lluoedd a wna hyn.’

32. “Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am frenin Asyria:“ ‘Ni ddaw i mewn i'r ddinas hon, nac anfon saeth i'w mewn;nid ymesyd arni â tharian, na chodi clawdd i'w herbyn.

33. Ar hyd y ffordd y daeth, fe ddychwel;ac ni ddaw i mewn i'r ddinas hon, medd yr ARGLWYDD.

34. Byddaf yn darian i'r ddinas hon i'w gwaredu,er fy mwyn fy hun ac er mwyn fy ngwas Dafydd.’ ”

35. A'r noson honno aeth angel yr ARGLWYDD allan a tharo yng ngwersyll Asyria gant a phedwar ugain a phump o filoedd; pan ddaeth y bore cafwyd hwy i gyd yn gelanedd meirwon.

36. Yna aeth Senacherib brenin Asyria i ffwrdd a dychwelyd i Ninefe ac aros yno.

37. Pan oedd yn addoli yn nheml ei dduw Nisroch, daeth ei feibion Adrammelech a Sareser a'i ladd â'r cleddyf, ac yna dianc i wlad Ararat. Daeth ei fab Esarhadon i'r orsedd yn ei le.