Yna anfonodd Heseceia brenin Jwda at frenin Asyria i Lachis a dweud, “Rwyf ar fai. Dychwel oddi wrthyf, a thalaf iti beth bynnag a godi arnaf.” Rhoddodd brenin Asyria ddirwy o dri chan talent o arian a deg talent ar hugain o aur ar Heseceia brenin Jwda.