Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25

Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Ahas Brenin Jwda

1. Yn yr ail flwyddyn ar bymtheg i Pecach fab Remaleia, daeth Ahas fab Jotham brenin Jwda i'r orsedd.

2. Ugain oed oedd Ahas pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am un mlynedd ar bymtheg yn Jerwsalem; ond ni wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD ei Dduw fel y gwnaeth ei dad Dafydd.

3. Dilynodd esiampl brenhinoedd Israel, ac yn waeth, fe barodd i'w fab fynd trwy dân yn ôl arfer ffiaidd y cenhedloedd a ddisodlodd yr ARGLWYDD o flaen yr Israeliaid.

4. Yr oedd yn aberthu ac yn arogldarthu yn yr uchelfeydd ac ar y bryniau a than bob pren gwyrddlas.

5. Yr adeg honno daeth Resin brenin Syria a Pecach fab Remaleia brenin Israel i ryfela yn erbyn Jerwsalem. Rhoesant warchae ar Ahas, ond methu ei gael i frwydro.

6. Y pryd hwnnw enillwyd Elath yn ôl i Edom gan frenin Edom, a gyrrodd ef yr Iddewon allan o Elath. Daeth yr Edomiaid yn ôl i Elath, ac y maent yn byw yno hyd heddiw.

7. Anfonodd Ahas genhadau at Tiglath-pileser brenin Asyria a dweud, “Gwas a deiliad i ti wyf fi; tyrd i'm gwaredu o law brenhinoedd Syria ac Israel, sy'n ymosod arnaf.”

8. Cymerodd Ahas yr arian a'r aur oedd ar gael yn nhŷ'r ARGLWYDD ac yng nghoffrau'r palas a'u hanfon yn rhodd i frenin Asyria.

9. Gwrandawodd brenin Asyria arno, a mynd yn erbyn Damascus a'i goresgyn; caethgludodd ei thrigolion i Cir, a lladd Resin.

10. Yna aeth y Brenin Ahas i Ddamascus i gyfarfod Tiglath-pileser brenin Asyria. Gwelodd yno allor, ac anfonodd batrwm ohoni a holl fanylion ei gwneuthuriad at Ureia yr offeiriad.

11. Yna adeiladodd yr offeiriad Ureia allor, yn ôl y manylion a anfonodd y Brenin Ahas o Ddamascus, a'i gwneud yn barod erbyn i'r Brenin Ahas gyrraedd.

12. Pan gyrhaeddodd y brenin o Ddamascus a gweld yr allor, aeth i fyny a nesáu ati.

13. Yna llosgodd ei boethoffrwm a'i fwydoffrwm, a thywallt ei ddiodoffrwm a lluchio gwaed ei heddoffrymau yn erbyn yr allor.

14. Symudodd yr allor bres a arferai fod gerbron yr ARGLWYDD ym mlaen y tŷ, a'i gosod rhwng yr allor newydd a thŷ'r ARGLWYDD, ar ochr ogleddol yr allor honno.

15. A gorchmynnodd y Brenin Ahas i'r offeiriad Ureia, “Ar yr allor fawr yr wyt i losgi'r poethoffrwm boreol a'r bwydoffrwm hwyrol, a hefyd poethoffrwm a bwydoffrwm y brenin, a phoethoffrwm holl bobl y wlad ynghyd â'u bwydoffrwm a'u diodoffrymau. Ac yn ei herbyn hi y lluchi holl waed y poethoffrymau a'r aberthau. Ond ar fy nghyfer i y bydd yr allor bres i ymofyn wrthi.”

16. Gwnaeth yr offeiriad Ureia yn union fel y gorchmynnodd y Brenin Ahas.

17. Tynnodd y Brenin Ahas fframiau'r trolïau a gwneud i ffwrdd â'u carfanau a'r noe; hefyd dymchwelodd y môr oddi ar gefn yr ychen pres a fu dano, a'i osod ar sylfaen o gerrig.

18. Hefyd, o achos brenin Asyria, cymerodd o dŷ yr ARGLWYDD lidiart y Saboth a adeiladwyd yn y deml wrth fynedfa allanol y brenin.

19. Am weddill hanes Ahas, a'r hyn a wnaeth, onid yw wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Jwda?

20. Bu farw Ahas, a chladdwyd ef gyda'i ragflaenwyr yn Ninas Dafydd, a theyrnasodd ei fab Heseceia yn ei le.