Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 15:28-38 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

28. Gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, heb droi oddi wrth bechodau Jeroboam fab Nebat, a barodd i Israel bechu.

29. Yn nyddiau Pecach brenin Israel daeth Tiglath-pileser brenin Asyria a goresgyn Ijon, Abel-beth-maacha, Janoah, Cedes a Hasor, a hefyd Gilead, Galilea a holl diriogaeth Nafftali; a chaethgludodd hwy i Asyria.

30. Gwnaeth Hosea fab Ela gynllwyn yn erbyn Pecach fab Remaleia, ac ymosod arno a'i ladd, a dod yn frenin yn ei le yn yr ugeinfed flwyddyn i Jotham fab Usseia.

31. Am weddill hanes Pecach, a'r cwbl a wnaeth, y mae wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Israel.

32. Yn yr ail flwyddyn i Pecach fab Remaleia brenin Israel, daeth Jotham fab Usseia brenin Jwda i'r orsedd.

33. Pump ar hugain oedd ei oed pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am un mlynedd ar bymtheg yn Jerwsalem. Jerusa merch Sadoc oedd enw ei fam.

34. Gwnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, a gweithredu yn hollol fel y gwnaeth ei dad Usseia;

35. er hynny ni thynnwyd ymaith yr uchelfeydd; yr oedd y bobl yn parhau i aberthu ac arogldarthu ynddynt. Ef a adeiladodd borth uchaf tŷ'r ARGLWYDD.

36. Am weddill hanes Jotham, a'r hyn a wnaeth, onid yw wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Jwda?

37. Yn y dyddiau hynny y dechreuodd yr ARGLWYDD anfon Resin brenin Syria a Pecach fab Remaleia i ymosod ar Jwda.

38. Bu farw Jotham, a chladdwyd ef gyda'i ragflaenwyr yn ninas ei dad Dafydd, a theyrnasodd ei fab Ahas yn ei le.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 15