Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 15:11-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Am weddill hanes Sechareia, y mae wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Israel.

12. Dyma addewid yr ARGLWYDD i Jehu: “Bydd plant i ti yn eistedd ar orsedd Israel hyd y bedwaredd genhedlaeth.” Ac felly y bu.

13. Yn y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg ar hugain i Usseia brenin Jwda, daeth Salum fab Jabes i'r orsedd, a theyrnasu yn Samaria am fis.

14. Daeth Menahem fab Gadi o Tirsa i Samaria ac ymosod yno ar Salum fab Jabes a'i ladd, a theyrnasu yn ei le.

15. Am weddill hanes Salum a'i gynllwyn, y mae wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Israel.

16. Dyna'r pryd yr ymosododd Menahem o Tirsa ar Tiffsa a'i thrigolion a'i thiriogaeth, am nad ildiodd iddo; rheibiodd hi a rhwygo ei holl wragedd beichiog.

17. Yn y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg ar hugain i Asareia brenin Jwda, daeth Menahem fab Gadi yn frenin ar Israel yn Samaria am ddeng mlynedd.

18. Gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, heb droi oddi wrth bechodau Jeroboam fab Nebat, a barodd i Israel bechu.

19. Yn ei ddyddiau ef daeth Pul brenin Asyria yn erbyn y wlad, a rhoddodd Menahem i Pul fil o dalentau arian i ennill ei gefnogaeth a sicrhau'r frenhiniaeth iddo'i hun.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 15