Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 13:1-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yn y drydedd flwyddyn ar hugain i Jehoas fab Ahaseia brenin Jwda daeth Jehoahas fab Jehu yn frenin ar Israel yn Samaria am ddwy flynedd ar bymtheg.

2. Gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, a dilyn pechodau Jeroboam fab Nebat, a barodd i Israel bechu; ni throdd oddi wrthynt.

3. Llidiodd yr ARGLWYDD wrth Israel, a rhoddodd hwy yn llaw Hasael brenin Syria a Ben-hadad fab Hasael am gyfnod.

4. Ond erfyniodd Jehoahas ar yr ARGLWYDD, a gwrandawodd yntau arno wrth weld fel y dioddefai Israel dan orthrwm brenin Syria.

5. Rhoddodd yr ARGLWYDD waredydd i Israel a'u rhyddhau o afael Syria, a chafodd yr Israeliaid fyw yn eu cartrefi fel o'r blaen.

6. Eto ni throesant oddi wrth bechodau tylwyth Jeroboam, a barodd i Israel bechu, ond parhau ynddynt, ac yr oedd hyd yn oed y pren Asera'n aros yn Samaria.

7. Ni adawodd Hasael i Jehoahas fwy na hanner cant o farchogion, a deg o gerbydau, a deng mil o wŷr traed, gan fod brenin Syria wedi eu dinistrio a'u gwneud fel llwch dyrnwr.

8. Am weddill hanes Jehoahas, a'i weithredoedd a'i wrhydri, onid yw wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Israel?

9. Bu farw Jehoahas, a'i gladdu yn Samaria, a daeth ei fab Joas yn frenin yn ei le.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 13