Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 12:1-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yn y seithfed flwyddyn i Jehu y daeth Jehoas i'r orsedd a theyrnasodd ddeugain mlynedd yn Jerwsalem. Sibia o Beerseba oedd enw ei fam.

2. Ar hyd ei oes gwnaeth Jehoas yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, fel yr oedd yr offeiriad Jehoiada wedi ei ddysgu.

3. Er hynny ni thynnwyd ymaith yr uchelfeydd; yr oedd y bobl yn parhau i aberthu ac arogldarthu ynddynt.

4. Dywedodd Jehoas wrth yr offeiriaid, “Cymerwch yr holl arian cysegredig sy'n dod i dŷ'r ARGLWYDD, sef arian treth pob un yn ôl swm y trethiant ar gyfer ei deulu a hefyd yr holl arian sy'n dod i mewn yn wirfoddol ar gyfer tŷ'r ARGLWYDD;

5. cymered yr offeiriaid hefyd o'r cyfraniadau a dderbyniant, ac atgyweirio pob agen ym muriau'r tŷ.”

6. Eto erbyn y drydedd flwyddyn ar hugain i'r Brenin Jehoas nid oedd yr offeiriaid wedi atgyweirio agennau'r tŷ;

7. a galwodd y Brenin Jehoas am yr archoffeiriad Jehoiada ac am yr offeiriaid, a dweud wrthynt, “Pam nad ydych wedi atgyweirio agennau'r tŷ? Yn awr, felly, nid ydych i dderbyn arian o'r cyfraniadau; y maent i'w rhoi at atgyweirio agennau'r tŷ.”

8. Cytunodd yr offeiriaid i beidio â derbyn arian gan y bobl i atgyweirio agennau'r tŷ.

9. A chymerodd yr offeiriad Jehoiada gist, a gwneud twll yn ei chaead a'i gosod yn ymyl yr allor, ar y dde wrth fynd i mewn i dŷ'r ARGLWYDD; ac yno y rhoddai'r offeiriaid oedd yn gwylio'r drws yr holl arian a ddygid i dŷ'r ARGLWYDD.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 12