Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 12:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yn y seithfed flwyddyn i Jehu y daeth Jehoas i'r orsedd a theyrnasodd ddeugain mlynedd yn Jerwsalem. Sibia o Beerseba oedd enw ei fam.

2. Ar hyd ei oes gwnaeth Jehoas yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, fel yr oedd yr offeiriad Jehoiada wedi ei ddysgu.

3. Er hynny ni thynnwyd ymaith yr uchelfeydd; yr oedd y bobl yn parhau i aberthu ac arogldarthu ynddynt.

4. Dywedodd Jehoas wrth yr offeiriaid, “Cymerwch yr holl arian cysegredig sy'n dod i dŷ'r ARGLWYDD, sef arian treth pob un yn ôl swm y trethiant ar gyfer ei deulu a hefyd yr holl arian sy'n dod i mewn yn wirfoddol ar gyfer tŷ'r ARGLWYDD;

5. cymered yr offeiriaid hefyd o'r cyfraniadau a dderbyniant, ac atgyweirio pob agen ym muriau'r tŷ.”

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 12