Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 10:31-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

31. Ond ni ofalodd Jehu am rodio yng nghyfraith yr ARGLWYDD, Duw Israel, â'i holl galon; ni throdd oddi wrth bechodau Jeroboam, a barodd i Israel bechu.

32. Yr adeg honno y dechreuodd yr ARGLWYDD gyfyngu terfynau Israel, a bu Hasael yn ymosod ar holl oror Israel

33. i'r tu dwyrain o'r Iorddonen, gwlad Gilead i gyd, tir Gad, Reuben a Manasse, i fyny o Aroer sydd wrth nant Arnon, sef Gilead a Basan.

34. Am weddill hanes Jehu, a'i holl wrhydri a'r cwbl a wnaeth, onid yw wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Israel?

35. Bu farw Jehu, a chladdwyd ef yn Samaria, a daeth ei fab Jehoahas yn frenin yn ei le.

36. Wyth mlynedd ar hugain y bu Jehu yn frenin ar Israel yn Samaria.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 10