Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 10:18-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

18. Casglodd Jehu yr holl bobl a dweud wrthynt, “Yr oedd Ahab yn addoli Baal ychydig; bydd Jehu yn ei addoli lawer.

19. Felly galwch ataf holl broffwydi Baal, ei holl addolwyr a'i holl offeiriaid, heb adael yr un ar ôl, oherwydd rwyf am gynnal aberth mawr i Baal, ac ni chaiff neb fydd yn absennol fyw.” Ond gweithredu'n gyfrwys yr oedd Jehu, er mwyn difa addolwyr Baal.

20. Gorchmynnodd Jehu, “Cyhoeddwch gynulliad sanctaidd i Baal.” Gwnaethant hynny,

21. ac anfonodd Jehu drwy holl Israel, a daeth holl addolwyr Baal yno, heb adael neb ar ôl, a daethant i deml Baal a'i llenwi i'r ymylon.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 10