Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 1:11-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Anfonodd y brenin gapten hanner cant arall gyda'i ddynion; a daeth yntau a dweud, “Gŵr Duw, dyma a ddywed y brenin: Tyrd i lawr ar unwaith.”

12. Atebodd Elias, “Os wyf fi'n ŵr Duw, doed tân o'r nef a'th ddifa di a'th hanner cant.”

13. A disgynnodd tân o'r nefoedd a'i ddifa ef a'i hanner cant. Yna anfonwyd trydydd capten hanner cant gyda'i ddynion. Pan ddaeth y trydydd capten i fyny ato, fe syrthiodd ar ei liniau o flaen Elias a chrefu arno, “O ŵr Duw, gad i'm bywyd i, a bywyd yr hanner cant yma o'th weision, fod yn werthfawr yn d'olwg.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 1