10. Dywedodd Saul wrth ei was, “Awgrym da. Tyrd, fe awn.” Ac aethant i'r dref lle'r oedd gŵr Duw.
11. Fel yr oeddent yn dringo'r allt at y dref, gwelsant ferched ar eu ffordd i dynnu dŵr, a dyna ofyn iddynt, “A yw'r gweledydd yma?”
12. “Ydyw,” meddent, “acw'n syth o'ch blaen; brysiwch, y mae newydd gyrraedd y dref, oherwydd y mae gan y bobl aberth heddiw yn yr uchelfa.
13. Os ewch i'r dref, fe'i daliwch cyn iddo fynd i'r uchelfa i fwyta; oherwydd ni fydd y bobl yn dechrau bwyta nes iddo gyrraedd, gan mai ef sy'n bendithio'r aberth cyn i'r gwahoddedigion fwyta. Ewch i fyny, ac fe'i cewch ar unwaith.”
14. Aethant tua'r dref, ac fel yr oeddent yn mynd i mewn iddi, dyna Samuel yn dod i'w cyfarfod ar ei ffordd i'r uchelfa.
15. Yr oedd yr ARGLWYDD wedi rhybuddio Samuel ryw ddiwrnod cyn i Saul gyrraedd, a dweud,
16. “Yr adeg yma yfory anfonaf atat ddyn o diriogaeth Benjamin, i'w eneinio'n dywysog ar fy mhobl Israel, ac fe wareda fy mhobl o law'r Philistiaid; oherwydd gwelais drueni fy mhobl, a daeth eu cri ataf.”
17. Pan welodd Samuel Saul, dywedodd yr ARGLWYDD, “Dyma'r dyn y dywedais wrthyt amdano; hwn sydd i reoli fy mhobl.”
18. Daeth Saul i fyny at Samuel yng nghanol y porth a dweud wrtho, “A fyddi mor garedig â dweud wrthyf ymhle y mae tŷ'r gweledydd?”
19. Atebodd Samuel, “Fi yw'r gweledydd; dos i fyny o'm blaen i'r uchelfa; cei fwyta gyda mi heddiw, a gollyngaf di ymaith yfory ar ôl dweud wrthyt bopeth sydd yn dy galon.
20. Ac am yr asennod sydd ar goll gennyt ers tridiau, paid â phoeni amdanynt, oherwydd cafwyd hwy. I bwy y mae popeth dymunol yn Israel? Onid i ti a'th holl deulu?”
21. Atebodd Saul, “Onid un o Benjamin wyf fi, o'r lleiaf o lwythau Israel? A'm tylwyth i yw'r distatlaf o holl dylwythau llwyth Benjamin. Pam, felly, yr wyt yn siarad fel hyn â mi?”
22. Cymerodd Samuel Saul a'i was, a mynd â hwy i'r neuadd a rhoi iddynt y lle blaenaf ymysg y gwahoddedigion; yr oedd tua deg ar hugain ohonynt.
23. Yna dywedodd Samuel wrth y cogydd, “Estyn y darn a roddais iti pan ddywedais wrthyt, ‘Cadw hwn o'r neilltu’.”