Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 7:7-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Pan glywodd y Philistiaid fod Israel wedi dod ynghyd i Mispa, daeth arglwyddi'r Philistiaid i fyny yn erbyn Israel. Clywodd Israel hynny, a daeth arnynt ofn y Philistiaid, ac meddent wrth Samuel,

8. “Gweddïa'n ddi-baid drosom ar yr ARGLWYDD ein Duw iddo'n gwaredu ni o law'r Philistiaid.”

9. Cymerodd Samuel oen sugno a'i offrymu'n boethoffrwm cyfan i'r ARGLWYDD; gweddïodd ar yr ARGLWYDD dros Israel, ac atebodd yr ARGLWYDD ef.

10. Y diwrnod hwnnw, fel yr oedd Samuel yn offrymu'r poethoffrwm, a'r Philistiaid yn nesáu i ymladd ag Israel, cododd yr ARGLWYDD storm daranau yn erbyn y Philistiaid a'u drysu, a gyrrwyd hwy ar ffo o flaen Israel.

11. Yna aeth gwŷr Israel allan o Mispa, ac erlid y Philistiaid a'u taro nes dod islaw Beth-car.

12. Yna cymerodd Samuel faen, a'i osod rhwng Mispa a Sên a'i alw'n Ebeneser, a dweud, “Hyd yma y cynorthwyodd yr ARGLWYDD ni.”

13. Darostyngwyd y Philistiaid ac ni ddaethant eto i diriogaeth Israel; yr oedd llaw'r ARGLWYDD yn erbyn y Philistiaid holl ddyddiau Samuel.

14. Adferwyd i Israel y trefi yr oedd y Philistiaid wedi eu dwyn oddi arni, o Ecron hyd Gath; a rhyddhaodd Israel eu terfynau o afael y Philistiaid. Yr oedd heddwch hefyd rhwng Israel a'r Amoriaid.

15. Bu Samuel yn barnu Israel ar hyd ei oes.

16. Bob blwyddyn âi ar gylchdaith i Fethel, Gilgal a Mispa, a barnu Israel yn y mannau hyn.

17. Yna dychwelai i Rama, oherwydd yno'r oedd ei gartref. Barnai Israel yno hefyd, a chododd yno allor i'r ARGLWYDD.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 7