Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 7:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yna daeth gwŷr Ciriath-jearim a chyrchu arch yr ARGLWYDD, a'i dwyn atynt i dŷ Abinadab ar y bryn, a chysegru ei fab Eleasar i gadw arch yr ARGLWYDD.

2. Aeth llawer o amser heibio, tuag ugain mlynedd, er pan ddaeth yr arch i aros yn Ciriath-jearim, ac yr oedd holl dŷ Israel yn hiraethu am yr ARGLWYDD.

3. Dywedodd Samuel wrth yr Israeliaid, “Os ydych yn dychwelyd at yr ARGLWYDD â'ch holl galon, bwriwch ymaith y duwiau estron a'r Astaroth o'ch mysg; rhowch eich meddwl ar yr ARGLWYDD, a'i addoli ef yn unig, ac fe'ch achub o law y Philistiaid.”

4. A bwriodd Israel ymaith y Baalim a'r Astaroth, ac addoli'r ARGLWYDD yn unig.

5. Yna dywedodd Samuel, “Casglwch holl Israel i Mispa, a gweddïaf drosoch ar yr ARGLWYDD.”

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 7