Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 6:7-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Yn awr, paratowch fen newydd a chymryd dwy fuwch flith heb fod dan iau; rhwymwch y buchod wrth y fen a chadw eu lloi i mewn rhag iddynt eu dilyn.

8. Yna cymerwch arch yr ARGLWYDD a'i rhoi ar y fen, ac mewn cist wrth ei hochr rhowch y pethau aur yr ydych yn eu hanfon iddo yn offrwm dros gamwedd; a gadewch i'r arch fynd.

9. Yna cewch weld; os â i fyny am Beth-semes i gyfeiriad ei chynefin, ef sydd wedi achosi'r drwg mawr hwn i ni; ond os nad â, byddwn yn gwybod nad ei law ef a'n trawodd, ond mai cyd-ddigwyddiad oedd hyn.”

10. Dyna a wnaeth y dynion, cymryd dwy fuwch fagu a'u rhwymo wrth fen a chadw eu lloi mewn cwt.

11. Rhoesant arch yr ARGLWYDD ar y fen, gyda'r gist a'r llygod aur a'r modelau o'u cornwydydd.

12. Cerddodd y buchod ar eu hunion ar y ffordd i gyfeiriad Beth-semes, gan frefu wrth fynd, ond yn cadw i'r un briffordd heb wyro i'r dde na'r chwith; a cherddodd arglwyddi'r Philistiaid ar eu hôl hyd at derfyn Beth-semes.

13. Yr oedd pobl Beth-semes yn medi eu cynhaeaf gwenith yn y dyffryn, a phan godasant eu llygaid a gweld yr arch, yr oeddent yn llawen o'i gweld.

14. Daeth y fen i faes Josua, gŵr o Beth-semes, a sefyll yno yn ymyl carreg fawr, ac wedi iddynt ddarnio coed y fen, offrymasant y buchod yn boethoffrwm i'r ARGLWYDD.

15. Yna tynnodd y Lefiaid i lawr arch yr ARGLWYDD, a'r gist oedd gyda hi yn cynnwys y pethau aur, a'u rhoi ar y garreg fawr; a'r dydd hwnnw offrymodd gwŷr Beth-semes boethoffrymau ac ebyrth i'r ARGLWYDD.

16. Ac wedi i bum arglwydd y Philistiaid weld, aethant yn ôl i Ecron yr un diwrnod.

17. Dyma restr y cornwydydd aur a anfonodd y Philistiaid i'r ARGLWYDD yn offrwm dros gamwedd: un dros Asdod, un dros Gasa, un dros Ascalon, un dros Gath ac un dros Ecron.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 6