Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 6:11-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Rhoesant arch yr ARGLWYDD ar y fen, gyda'r gist a'r llygod aur a'r modelau o'u cornwydydd.

12. Cerddodd y buchod ar eu hunion ar y ffordd i gyfeiriad Beth-semes, gan frefu wrth fynd, ond yn cadw i'r un briffordd heb wyro i'r dde na'r chwith; a cherddodd arglwyddi'r Philistiaid ar eu hôl hyd at derfyn Beth-semes.

13. Yr oedd pobl Beth-semes yn medi eu cynhaeaf gwenith yn y dyffryn, a phan godasant eu llygaid a gweld yr arch, yr oeddent yn llawen o'i gweld.

14. Daeth y fen i faes Josua, gŵr o Beth-semes, a sefyll yno yn ymyl carreg fawr, ac wedi iddynt ddarnio coed y fen, offrymasant y buchod yn boethoffrwm i'r ARGLWYDD.

15. Yna tynnodd y Lefiaid i lawr arch yr ARGLWYDD, a'r gist oedd gyda hi yn cynnwys y pethau aur, a'u rhoi ar y garreg fawr; a'r dydd hwnnw offrymodd gwŷr Beth-semes boethoffrymau ac ebyrth i'r ARGLWYDD.

16. Ac wedi i bum arglwydd y Philistiaid weld, aethant yn ôl i Ecron yr un diwrnod.

17. Dyma restr y cornwydydd aur a anfonodd y Philistiaid i'r ARGLWYDD yn offrwm dros gamwedd: un dros Asdod, un dros Gasa, un dros Ascalon, un dros Gath ac un dros Ecron.

18. Hefyd llygod aur yn ôl nifer holl ddinasoedd y Philistiaid a oedd dan y pum arglwydd, yn ddinas gaerog neu'n bentref agored. Saif y garreg fawr y gosodwyd arni arch yr ARGLWYDD yn dyst hyd y dydd hwn ym maes Josua o Beth-semes.

19. Trawyd rhai o wŷr Beth-semes am iddynt edrych i mewn i arch yr ARGLWYDD. Trawyd deg a thrigain ohonynt, a galarodd y bobl oherwydd bod yr ARGLWYDD wedi gwneud lladdfa mor fawr yn eu plith.

20. A dywedodd gwŷr Beth-semes, “Pwy a fedr sefyll o flaen yr ARGLWYDD, y Duw sanctaidd hwn? At bwy yr â oddi wrthym ni?”

21. Anfonasant negeswyr at drigolion Ciriath-jearim a dweud, “Anfonodd y Philistiaid arch yr ARGLWYDD yn ôl, dewch i lawr i'w chyrchu.”

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 6