Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 6:1-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Wedi i arch yr ARGLWYDD fod yn Philistia saith mis,

2. galwodd y Philistiaid ar yr offeiriaid a'r dewiniaid a gofyn, “Beth a wnawn ni ag arch yr ARGLWYDD? Dywedwch wrthym sut yr anfonwn hi'n ôl i'w lle.”

3. Atebasant, “Os ydych yn anfon arch Duw Israel yn ôl, peidiwch â'i hanfon heb rodd, gofalwch anfon gyda hi offrwm dros gamwedd; yna cewch eich iacháu a darganfod pam na symudwyd ei law oddi arnoch.”

4. Pan ofynnwyd pa offrwm dros gamwedd a roddent iddo, dywedasant, “Pum cornwyd aur a phum llygoden aur, yn ôl nifer arglwyddi'r Philistiaid, oherwydd yr un pla a fu ar bawb ohonoch chwi a'ch arglwyddi.

5. Gwnewch fodelau o'ch cornwydydd, a'r llygod sy'n difa'r wlad, a rhowch ogoniant i Dduw Israel; efallai y bydd yn ysgafnhau ei law oddi arnoch chwi a'ch duw a'ch gwlad.

6. Pa les ystyfnigo fel y gwnaeth Pharo a'r Aifft? Wedi iddo ef eu trin fel y mynnai, oni fu raid iddynt ollwng Israel ymaith?

7. Yn awr, paratowch fen newydd a chymryd dwy fuwch flith heb fod dan iau; rhwymwch y buchod wrth y fen a chadw eu lloi i mewn rhag iddynt eu dilyn.

8. Yna cymerwch arch yr ARGLWYDD a'i rhoi ar y fen, ac mewn cist wrth ei hochr rhowch y pethau aur yr ydych yn eu hanfon iddo yn offrwm dros gamwedd; a gadewch i'r arch fynd.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 6