Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 31:6-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Felly bu farw Saul a'i dri mab a'i gludydd arfau yr un diwrnod â'i gilydd.

7. Pan welodd yr Israeliaid oedd yr ochr draw i'r dyffryn a thros yr Iorddonen fod dynion Israel wedi ffoi, a bod Saul a'i feibion wedi marw, gadawsant y trefi a ffoi; yna daeth y Philistiaid a byw ynddynt.

8. Trannoeth, pan ddaeth y Philistiaid i ysbeilio'r lladdedigion, cawsant Saul a'i dri mab wedi syrthio ar Fynydd Gilboa.

9. Torasant ei ben ef, a chymryd ei arfau oddi arno, ac anfon drwy Philistia i gyhoeddi'r newydd da yn nheml eu delwau ac i'r bobl.

10. Rhoesant ei arfau yn nheml Astaroth, a chrogi ei gorff ar fur Beth-sean.

11. Pan glywodd trigolion Jabes-gilead beth oedd y Philistiaid wedi ei wneud i Saul,

12. aeth pob rhyfelwr ohonynt ar unwaith liw nos a chymryd corff Saul a chyrff ei feibion oddi ar fur Beth-sean, a'u cludo i Jabes a'u llosgi yno.

13. Yna cymerasant eu hesgyrn a'u claddu dan y dderwen yn Jabes, ac ymprydio am saith diwrnod.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 31