Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 30:24-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

24. Pwy a fyddai'n cytuno â chwi yn hyn o beth? Na, yr un fydd rhan y sawl sy'n mynd i'r frwydr â rhan y sawl sy'n aros gyda'r offer; y maent i rannu ar y cyd.”

25. Ac felly y bu, o'r diwrnod hwnnw ymlaen; a daeth hyn yn rheol ac yn arfer yn Israel hyd heddiw.

26. Wedi i Ddafydd ddychwelyd i Siclag, anfonodd beth o'r ysbail i henuriaid Jwda ac i'w gyfeillion, a dweud, “Dyma rodd i chwi o ysbail gelynion yr ARGLWYDD.”

27. Fe'i hanfonwyd i'r rhai oedd ym Methel, Ramoth-negef, Jattir,

28. Aroer, Siffmoth, Estemoa,

29. Rachal, trefi'r Jerahmeeliaid a'r Ceneaid,

30. Horma, Borasan, Athac,

31. Hebron, a'r holl fannau y byddai Dafydd a'i filwyr yn eu mynychu.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 30