Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 3:10-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Yna daeth yr ARGLWYDD a sefyll a galw fel o'r blaen, “Samuel! Samuel!” A dywedodd Samuel, “Llefara, canys y mae dy was yn gwrando.”

11. Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Samuel, “Yr wyf ar fin gwneud rhywbeth yn Israel a fydd yn merwino clustiau pwy bynnag a'i clyw.

12. Y dydd hwnnw dygaf ar Eli y cwbl a ddywedais am ei dŷ, o'r dechrau i'r diwedd;

13. a dywedaf wrtho fy mod yn barnu ei dŷ am byth, oherwydd gwyddai fod ei feibion yn melltithio Duw, ac ni roddodd daw arnynt.

14. Am hynny tyngais wrth dŷ Eli, ‘Ni wneir iawn byth am ddrygioni tŷ Eli ag aberth nac ag offrwm’.”

15. Gorweddodd Samuel tan y bore, yna agorodd ddrysau tŷ'r ARGLWYDD; ond ofnai ddweud y weledigaeth wrth Eli.

16. Galwodd Eli ar Samuel, “Samuel, fy machgen.” Atebodd yntau, “Dyma fi.” Yna holodd, “Beth oedd y neges a lefarodd ef wrthyt?

17. Paid â'i chelu oddi wrthyf. Fel hyn y gwnelo Duw iti, a rhagor, os cuddi oddi wrthyf unrhyw beth a lefarodd ef wrthyt.”

18. Yna mynegodd Samuel y cyfan wrtho, heb gelu dim. Ac meddai yntau, “Yr ARGLWYDD yw; fe wna'r hyn sydd dda yn ei olwg.”

19. Tyfodd Samuel, ac yr oedd yr ARGLWYDD gydag ef; ni adawodd i'r un o'i eiriau fethu.

20. Sylweddolodd Israel gyfan, o Dan hyd Beerseba, fod Samuel wedi ei sefydlu'n broffwyd i'r ARGLWYDD.

21. A pharhaodd yr ARGLWYDD i ymddangos yn Seilo, oherwydd yno y'i datguddiodd ei hun i Samuel trwy ei air.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 3