Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 28:16-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Ac meddai Samuel, “Ond pam yr wyt yn gofyn i mi, a'r ARGLWYDD wedi dy adael a dod yn wrthwynebwr iti?

17. Y mae'r ARGLWYDD wedi gwneud fel y dywedodd trwof fi, ac wedi rhwygo'r deyrnas o'th law di a'i rhoi i'th gymydog Dafydd.

18. Am na wrandewaist ar lais yr ARGLWYDD, na gweithredu llymder ei lid yn erbyn yr Amaleciaid, dyna pam y mae'r ARGLWYDD wedi gwneud hyn i ti heddiw.

19. Bydd yr ARGLWYDD yn rhoi Israel a thithau hefyd yn llaw'r Philistiaid; yfory byddi di a'th feibion gyda mi, a bydd yr ARGLWYDD yn rhoi byddin Israel yn llaw'r Philistiaid.”

20. Syrthiodd Saul ar unwaith ar ei hyd ar lawr, mewn ofn enbyd oherwydd geiriau Samuel, ac aeth yn gwbl ddiymadferth am nad oedd wedi bwyta tamaid am ddiwrnod a noson gyfan.

21. Pan ddaeth y ddynes at Saul gwelai ei fod wedi cynhyrfu drwyddo, a dywedodd wrtho, “Edrych, fe wrandawodd dy wasanaethferch arnat, a chymerais fy mywyd yn fy nwylo trwy wrando ar yr hyn a ddywedaist wrthyf;

22. yn awr, gwrando dithau ar dy wasanaethferch, a gad imi osod o'th flaen damaid o fwyd iti ei fwyta, er mwyn adfer dy nerth ar gyfer dy daith.”

23. Ond gwrthododd, a dweud nad oedd am fwyta. Wedi i'w weision a'r ddynes bwyso arno, gwrandawodd arnynt, a chodi oddi ar lawr ac eistedd ar y gwely.

24. Yr oedd gan y ddynes lo pasgedig yn y cwt, a brysiodd i'w ladd; hefyd cymerodd flawd a'i dylino a phobi bara croyw.

25. Yna fe'u gosododd o flaen Saul a'i weision; ac wedi iddynt fwyta, aethant ymaith ar unwaith y noson honno.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 28