Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 26:15-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. Ac meddai Dafydd wrth Abner, “Onid wyt ti'n ddyn? Pwy sydd debyg i ti yn Israel? Pam ynteu na fyddit wedi gwarchod dy feistr, y brenin, pan ddaeth rhywun i'w ladd?

16. Nid da yw'r peth hwn a wnaethost; cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, yr ydych yn wir yn haeddu marw am beidio â gwarchod eich meistr, eneiniog yr ARGLWYDD. Edrych yn awr; ple mae gwaywffon y brenin, a'r gostrel ddŵr oedd wrth ei ben?”

17. Adnabu Saul lais Dafydd, a dywedodd, “Ai dy lais di ydyw, fy mab Dafydd?” Atebodd Dafydd, “Ie, f'arglwydd frenin.”

18. Ychwanegodd, “Pam y mae f'arglwydd yn erlid ei was? Beth a wneuthum, a pha ddrwg sydd ynof?

19. Gwrandawed f'arglwydd frenin yn awr ar eiriau ei was. Os yr ARGLWYDD sydd wedi dy annog i'm herbyn, derbynied offrwm; ond os bodau meidrol, bydded iddynt fod dan felltith gerbron yr ARGLWYDD, am iddynt fy ngyrru allan heddiw rhag cael fy rhan yn etifeddiaeth yr ARGLWYDD, a dweud, ‘Dos, addola dduwiau eraill.’

20. Paid â gadael i'm gwaed ddisgyn i'r ddaear allan o bresenoldeb yr ARGLWYDD; oherwydd fe ddaeth brenin Israel allan i geisio chwannen, fel un yn hela petrisen mynydd.”

21. Ac meddai Saul, “Yr wyf ar fai; tyrd yn ôl, fy mab Dafydd, oherwydd ni wnaf niwed iti eto, am i'm bywyd fod yn werthfawr yn dy olwg heddiw. Bûm yn ynfyd, a chyfeiliornais yn enbyd.”

22. Yna atebodd Dafydd, “Dyma'r waywffon, O frenin; gad i un o'r llanciau ddod drosodd i'w chymryd.

23. Y mae'r ARGLWYDD yn talu'n ôl i bob un am ei gyfiawnder a'i ffyddlondeb; oherwydd fe roddodd yr ARGLWYDD di yn fy llaw heddiw, ond nid oeddwn am estyn fy llaw yn erbyn eneiniog yr ARGLWYDD.

24. Fel y bu dy einioes di yn werthfawr yn fy ngolwg i heddiw, bydded f'einioes innau yn werthfawr yng ngolwg yr ARGLWYDD, i'm hachub o bob cyni.”

25. Dywedodd Saul wrth Ddafydd, “Bendith arnat, fy mab Dafydd; fe wnei di orchestion a llwyddo.” Wedi hynny aeth Dafydd i ffwrdd, a dychwelodd Saul adref.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 26