Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 26:1-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Daeth y Siffiaid at Saul i Gibea a dweud, “Onid yw Dafydd yn llechu ym mryn Hachila gyferbyn â Jesimon?”

2. Aeth Saul ar unwaith i lawr i ddiffeithwch Siff, a thair mil o wŷr dewisol Israel gydag ef, i chwilio am Ddafydd yno.

3. Gwersyllodd Saul ar y briffordd ym mryn Hachila gyferbyn â Jesimon, tra oedd Dafydd yn aros yn yr anialwch.

4. Pan welodd Dafydd fod Saul yn dod i'r anialwch ar ei ôl, anfonodd ysbiwyr a chael sicrwydd fod Saul wedi dod.

5. Aeth Dafydd ar unwaith i'r man lle'r oedd Saul yn gwersyllu, a gweld lle'r oedd ef a'i gadfridog Abner fab Ner yn cysgu. Yr oedd Saul yn cysgu yng nghanol y gwersyll, a'r milwyr yn gwersyllu o'i gwmpas.

6. Troes Dafydd a gofyn i Ahimelech yr Hethiad ac Abisai fab Serfia, brawd Joab, “Pwy a ddaw i lawr gyda mi i'r gwersyll at Saul?” Atebodd Abisai, “Fe ddof fi gyda thi.”

7. Aeth Dafydd ac Abisai i blith y milwyr liw nos, a dyna lle'r oedd Saul yn gorwedd ac yn cysgu yn y canol, a'i waywffon wedi ei gwthio i'r ddaear yn ymyl ei ben, ac Abner a'r milwyr yn gorwedd o'i amgylch.

8. Dywedodd Abisai wrth Ddafydd, “Y mae'r ARGLWYDD wedi rhoi dy elyn heddiw yn dy law; gad imi ei drywanu i'r ddaear â'r waywffon ag un ergyd; ni fydd angen ail.”

9. Ond dywedodd Dafydd wrth Abisai, “Paid â'i ladd. Pwy a fedr estyn llaw yn erbyn eneiniog yr ARGLWYDD a bod yn ddieuog?”

10. Ac ychwanegodd Dafydd, “Cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, bydd yr ARGLWYDD yn sicr o'i daro; un ai fe ddaw ei amser, a bydd farw, neu ynteu fe â i frwydr a cholli ei fywyd.

11. Yr ARGLWYDD a'm gwaredo rhag i mi estyn fy llaw yn erbyn eneiniog yr ARGLWYDD. Cymer di y waywffon sydd wrth ei ben, a'i gostrel ddŵr, ac fe awn.”

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 26