Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 25:33-44 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

33. Bendith ar dy gyngor, ac arnat tithau, am iti fy atal heddiw rhag dod i dywallt gwaed a dial drosof fy hun.

34. Yn wir iti, cyn wired â bod yr ARGLWYDD, Duw Israel, yn fyw, yr un a'm hataliodd rhag dy ddrygu, oni bai dy fod wedi brysio i ddod i'm cyfarfod, ni fyddai'r un gwryw ar ôl gan Nabal erbyn y bore.”

35. Derbyniodd Dafydd o'i llaw yr hyn a ddygodd iddo, a dywedodd wrthi, “Dos adref mewn heddwch; edrych, yr wyf wedi gwrando arnat a chaniatáu dy gais.”

36. Pan ddaeth Abigail yn ôl at Nabal, yr oedd ganddo wledd yn ei dŷ fel gwledd brenin. Am fod calon Nabal yn llawen, ac yntau'n feddw iawn, ni ddywedodd hi wrtho yr un gair, bach na mawr, hyd y bore.

37. Trannoeth, wedi i Nabal sobri, dywedodd ei wraig yr hanes wrtho, ac aeth ei galon yn farw o'i fewn ac aeth yntau fel carreg.

38. Ymhen tua deg diwrnod, trawodd yr ARGLWYDD Nabal a bu farw.

39. Pan glywodd Dafydd fod Nabal wedi marw, dywedodd, “Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD, sydd wedi dial drosof am y sarhad gan Nabal; y mae wedi atal ei was rhag gwneud camwedd, ac wedi talu'r pwyth yn ôl i Nabal.” Yna fe anfonodd Dafydd, a chynnig am Abigail i'w chymryd yn wraig iddo'i hun.

40. Daeth gweision Dafydd i Garmel at Abigail a dweud wrthi, “Y mae Dafydd wedi'n hanfon ni atat i'th gymryd yn wraig iddo.”

41. Ar unwaith ymgrymodd hithau i'r llawr a dweud, “Dyma fi, yn barod i olchi traed gweision f'arglwydd fel caethferch.”

42. Paratôdd Abigail ar unwaith i fynd, a marchogodd ar gefn asyn, gyda phump o'i morynion i'w chanlyn, a dilyn negeswyr Dafydd, a daeth yn wraig iddo.

43. Priododd Dafydd hefyd Ahinoam o Jesreel, a bu'r ddwy yn wragedd iddo.

44. Yr oedd Saul wedi rhoi ei ferch Michal, a fu'n wraig i Ddafydd, i Palti fab Lais, a oedd o Galim.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 25