Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 25:25-40 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

25. Paid â chymryd sylw o'r dihiryn yma, Nabal. Y mae yr un fath â'i enw: Nabal, sef Ynfyd, yw ei enw, ac ynfyd yw ei natur. Ni welais i, dy wasanaethferch, mo'r llanciau a anfonaist ti, syr.

26. Felly'n awr, syr, cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, a thithau hefyd, gan i'r ARGLWYDD dy atal rhag dod i dywallt gwaed a dial drosot dy hun, bydded dy elynion a'r rhai sy'n ceisio drwg iti, syr, fel Nabal.

27. Yn awr, daeth dy wasanaethferch â'r rhodd hon iti, syr, i'w rhoi i'r llanciau sy'n dy ganlyn.

28. Maddau gamwri dy wasanaethferch, oherwydd yn sicr bydd yr ARGLWYDD yn creu olyniaeth sicr i ti, syr, am dy fod yn ymladd brwydrau'r ARGLWYDD; a byth ni cheir dim bai ynot.

29. Os bydd unrhyw ddyn yn codi i'th erlid ac i geisio dy fywyd, bydd dy fywyd di, syr, wedi ei rwymo yn rhwymyn bywyd gyda'r ARGLWYDD dy Dduw; ond bydd bywyd dy elynion yn cael ei hyrddio fel carreg o ffon dafl.

30. A phan fydd yr ARGLWYDD wedi gwneud daioni i ti, syr, yn ôl y cyfan a addawodd amdanat, ac wedi dy osod yn arweinydd dros Israel,

31. ni fydd hyn yn ofid nac yn boen cydwybod iti, sef dy fod wedi tywallt gwaed heb achos i ddial drosot dy hun. A phan fydd yr ARGLWYDD wedi bod yn dda wrthyt ti, syr, cofia dy wasanaethferch.”

32. Dywedodd Dafydd wrth Abigail, “Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD, Duw Israel, am iddo dy anfon di heddiw i'm cyfarfod.

33. Bendith ar dy gyngor, ac arnat tithau, am iti fy atal heddiw rhag dod i dywallt gwaed a dial drosof fy hun.

34. Yn wir iti, cyn wired â bod yr ARGLWYDD, Duw Israel, yn fyw, yr un a'm hataliodd rhag dy ddrygu, oni bai dy fod wedi brysio i ddod i'm cyfarfod, ni fyddai'r un gwryw ar ôl gan Nabal erbyn y bore.”

35. Derbyniodd Dafydd o'i llaw yr hyn a ddygodd iddo, a dywedodd wrthi, “Dos adref mewn heddwch; edrych, yr wyf wedi gwrando arnat a chaniatáu dy gais.”

36. Pan ddaeth Abigail yn ôl at Nabal, yr oedd ganddo wledd yn ei dŷ fel gwledd brenin. Am fod calon Nabal yn llawen, ac yntau'n feddw iawn, ni ddywedodd hi wrtho yr un gair, bach na mawr, hyd y bore.

37. Trannoeth, wedi i Nabal sobri, dywedodd ei wraig yr hanes wrtho, ac aeth ei galon yn farw o'i fewn ac aeth yntau fel carreg.

38. Ymhen tua deg diwrnod, trawodd yr ARGLWYDD Nabal a bu farw.

39. Pan glywodd Dafydd fod Nabal wedi marw, dywedodd, “Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD, sydd wedi dial drosof am y sarhad gan Nabal; y mae wedi atal ei was rhag gwneud camwedd, ac wedi talu'r pwyth yn ôl i Nabal.” Yna fe anfonodd Dafydd, a chynnig am Abigail i'w chymryd yn wraig iddo'i hun.

40. Daeth gweision Dafydd i Garmel at Abigail a dweud wrthi, “Y mae Dafydd wedi'n hanfon ni atat i'th gymryd yn wraig iddo.”

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 25