Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 25:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Bu farw Samuel, a daeth Israel gyfan ynghyd i alaru amdano a'i gladdu yn ei gartref yn Rama. Yna fe aeth Dafydd i ddiffeithwch Maon.

2. Yn Maon yr oedd dyn yn ffermio yng Ngharmel; yr oedd yn ŵr cyfoethog iawn, a chanddo dair mil o ddefaid a mil o eifr, ac yr oedd wrthi'n cneifio'i ddefaid yng Ngharmel.

3. Nabal oedd enw'r dyn, ac Abigail oedd enw ei wraig. Yr oedd hi'n ddynes ddeallus a golygus, ond yr oedd y gŵr—un o lwyth Caleb—yn galed ac anghwrtais.

4. Clywodd Dafydd yn y diffeithwch fod Nabal yn cneifio'i ddefaid,

5. ac anfonodd ddeg llanc a dweud wrthynt, “Ewch i fyny i Garmel, a mynd at Nabal a'i gyfarch yn f'enw;

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 25